Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2015
Amser: 08.30 -
08.38
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
David Melding (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Peter Greening, Llywodraeth Cymru Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth |
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd.
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 25 Tachwedd 2015 –
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Diwygio Lles a Gwaith.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Menter a Busnes er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 10 Rhagfyr 2015 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 12 Ionawr 2016.
Atgoffodd y Dirprwy Lywydd y Rheolwyr Busnes y disgwylir i Aelodau ddangos cwrteisi i'r rhai sy'n siarad yn y Siambr, ac ni ddylent groesi o flaen Aelodau sy'n siarad wrth fynd i mewn neu adael y Siambr.